Ymysg y rhai sydd wedi llwyddo i dderbyn nawdd mae cynlluniau creadigol cymunedol i gyfoethogi a chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ym maes llenyddiaeth, i gefnogi diddordeb pobl ifanc yn sin cerddorol Cymru, i blethu cymuned Codi Canu â thecstilau creadigol, i archwilio perthynas yr iaith Gymraeg â themâu oesol megis heddwch a thirwedd, a phrosiectau i sbarduno defnydd o’r Gymraeg trwy bob math o weithgaredd celf gweledol, canu gwerin ac ysgrifennu creadigol.
Bydd 13 project Llais y Lle yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Sir Benfro, Pen-y-bont, Casnewydd, Meirionydd, Caerffili a Chaerdydd a Gwynedd. Maent yn cyrraedd ystod o oedrannau, o fabanod i bobl ifanc ac oedolion, ac yn ehangu defnydd o’r Gymraeg ac yn codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg ymysg sawl cymuned benodol.
Lansiwyd Llais y Lle am y tro cyntaf yn 2023, ac mae'r gronfa yn bosib trwy gefnogaeth hael chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Meddai Einir Siôn, sy’n arwain cynllun Llais y Lle ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru,
“Mae’n bleser cyhoeddi’r prosiectau fydd yn rhan o Llais y Lle, â’r cynllun nawr yn ei thrydedd blwyddyn. Unwaith eto, roedd yna ymateb cryf i’r galwad gyda 51 yn gwneud cais. Cafwyd nifer o geisiadau arbennig o gryf, sy’n dyst i’r holl syniadau creadigol sydd gan unigolion creadigol a grwpiau cymunedol o gwmpas hybu defnydd a pherchnogaeth o’r iaith Gymraeg. Rwyf wir yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb ar y prosiectau yma ar hyd a lled Cymru dros y flwyddyn i ddod. Bydd pawb yn cwrdd a’i gilydd am y tro cyntaf ar y 3ydd o Orffennaf er mwyn dechrau’r siwrnai o ddarganfod a rhannu.”
Yr unigolion fydd yn derbyn nawdd yw:
Rhian Anderson - Caerffili
Bydd Celf yn y Caffi yn cael ei gynnal fel sesiynau celf greadigol sy'n dod â phobl o Ddyffryn Aber ynghyd gyda'r nod o hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg. Bydd wedi'i anelu at bob lefel a gallu, gan gynnwys y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol ond diddordeb a chwilfrydedd am y Gymraeg.
Tom Bevan - Casnewydd
Bydd Siaradwyr Newydd: Newid y Sîn Bydd yn cynnwys 15 sesiwn bob pythefnos lle bydd cymuned o siaradwyr Cymraeg ail iaith creadigol yn dod at ei gilydd yng Nglan yr Afon, Casnewydd i gymryd rhan mewn gweithdai creadigol traws-gelfyddydol, gyda'r nod o wneud gwaith wedi'i anelu at gynulleidfa o Dysgwyr/Siaradwyr Newydd eraill yn y gymuned.
Joseph Conran – Gwynedd
Wedi’i hysbrydoli gan yr hen idiom, a cherddi T H Parry Williams, mae Ein Milltir Sgwâr yn broses greadigol gydweithredol o archwilio'r rôl y mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn ein cyswllt hefo tirwedd. Mae’n defnyddio geiriau, deunyddiau a syniadau i fapio tirwedd Cymru, ac yn creu gofod ar gyfer cefnogi artistiaid i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
Nico Dafydd - Sir Benfro
Mynediad i'r ffatri gerddoriaeth i weld beth sy'n mynd mewn i'r sosej! Dros 12 mis bydd pobl ifanc ardal Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn cael dosbarthiadau meistr a gweithdai gan unigolion, mudiadau a grwpiau mwyaf gweithgar y sin gerddorol yng Nghymru, o ddylunwyr posteri i beirianwyr sain a phopeth yn y canol, gan weithio tuag at greu digwyddiadau eu hunain er mwyn ysgogi, cefnogi, a chreu isadeiledd hirdymor i weithgaredd cerddorol yn yr iaith Gymraeg ymysg pobl ifanc 16-25 yr ardal.
Llinos Griffin - Meirionydd
Wedi'i sbarduno gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, bydd Byw Mewn Heddwch yn annog gweithredu celfyddydol yn archwilio heddwch. Mewn cydweithrediad ag Academi Heddwch Cymru a Heddwch Nain/Mam-gu, cynhelir sesiynau aml-gyfrwng i gymunedau di-lais Meirionnydd (pobl ifanc GISDA a merched yr ardal). Archwilir 'heddwch' yn ei ystyr ehangaf - o'r personol i'r rhyngwladol gan greu 'cymuned heddwch' ar ein carreg ddrws
Carys Hedd - Sir Benfro
Esgyn - prosiect a fydd yn pwytho'n cymuned Codi Canu â gwaith tecstilio creadigol ynghyd yng Ngogledd Sir Benfro. Gwnawn hyn drwy ail greu'r Betgwn, rhan o’r wisg draddodiadol Gymreig i’w gwisgo mewn perfformiadau fel Y Fari Lwyd. Byddwn hefyd yn ymgynghori gyda’r cymunedau beth yn hoffent eu creu allan o ddefnyddiau wedi’u hail gylchu i arddangos neu wisgo mewn sesiynnau canu a digwyddiadau arbennig.
Kamalagita Hughes - Pen-y-bont
Bydd y prosiect yn treialu gweithdai adrodd straeon rhwng cenedlaethau gan annog dwyieithrwydd a mwynhad o'r Gymraeg gydag amrywiaeth o grwpiau. Bydd yn defnyddio perfformiadau adrodd stori, gweithdai creadigol a thechnegau trawsiaith i feithrin hyder mewn cyfranogwyr o gwmpas defnyddio a mwynhau'r Gymraeg sydd ganddynt eisoes a datblygu geirfa newydd, gyda ffocws penodol ar rieni, dysgwyr ar rai sydd allan o’r arfer o siarad Cymraeg.
Hammad Rind - Caerdydd
Nod prosiect Lleisiau Grangetown yw hyrwyddo gweithgareddau llenyddol Cymraeg yn Grangetown, un o'r ardaloedd mwyaf amrywiol a difreintiedig yng Nghymru. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys digwyddiadau Meic Agored Cymraeg, clybiau llyfrau a chyrsiau ysgrifennu creadigol. Gweledigaeth gyffredinol y prosiect yw dod â'r Gymraeg i'r gymuned mewn ffordd gynhwysol a hygyrch.
Trishna Singh - Caerdydd – Casnewydd, Penybont, Caerffili
Mae Ladies of Rage wedi ymgorffori ysgrifennu Cymraeg fel rhan o’u proses o greu cerddoriaeth i’w helpu i ddysgu. Dros y flwyddyn maent am ddod yn ganolfan ddysgu a chynnal gweithdai ysgrifennu dwyieithog a digwyddiadau cerddorol gan ddefnyddio eu swyddog iaith fel athro ac ysbrydoliaeth i ddechrau mudiad o fewn eu sefydliad a thu hwnt.
Rebecca Smith-Williams - Caerffili
Mae Babi Celf yn grŵp wythnosol i fabanod sy’n rhoi'i mynediad i’r celfyddydau i rieni a gofalwyr ac yn cynnig gofod i siarad Cymraeg. Ffocws y grŵp yw profiadau celfyddydol i'r oedolion (a fydd y babi yn mwynhau hefyd!). Bydd y grŵp ei hun yn curadu rhaglen fisol sy'n agored i gymuned eang o rieni.
Antwn Owen-Hicks - RhCT / Caerffili
Mae Cylch Canu yn gyfle i ddysgwyr/siaradwyr Cymraeg newydd i gwrdd bob mis, trwy ddigwyddiad cymdeithasol, i rannu caneuon gwerin, dysgu rhai newydd, bod yn creadigol a datblygu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Mae'r prosiect yma'n canolbwyntio ar ddatblygiad personol Antwn Owen-Hicks fel artist-arweinydd, i ehangu ei sgiliau a phrofiad yn y gwaith hwn, gan weithio gyda sefydliadau allweddol ac artistiaid eraill.
Krystal Lowe - Casnewydd
Trwy brosiect Anabledd a Dysgu Cymraeg bydd cymuned o artistiaid anabl sy'n ddysgwyr Cymraeg yn cydweithio dros flwyddyn i ddatblygu addysgeg dysgu'r Gymraeg gan ddefnyddio ysgrifennu creadigol i gefnogi pobl y mae elfennau clywedol, llafar a chyfathrebu cymdeithasol amgylcheddau dysgu traddodiadol y Gymraeg yn anhygyrch iddynt.
Rufus Mufasa – Pen-y-bont
Mae Colomen Cludwr yn brosiect creadigol gyda thrigolion Carchar y Parc sy'n siarad Cymraeg, sy'n archwilio hunaniaeth, perthyn a mynegiant drwy’r Gymraeg. Gan ddefnyddio gweithdai barddoniaeth, adrodd straeon a chelf, bydd cyfranogwyr yn cyd-greu gwaith newydd ar gyfer Eisteddfod y carchar a thu hwnt. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar y Gymraeg fel llinell achub ddiwylliannol—yn cario lleisiau a negeseuon o'r tu mewn i'r byd y tu allan.